BIL CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU (IEITHOEDD SWYDDOGOL)
Nodyn briffio mewn cysylltiad â chymhwysedd deddfwriaethol
1. Disgwylir i’r Bil uchod gael ei ystyried yng Nghyfnod 3 (cyfnod ystyried gwelliannau terfynol) a Chyfnod 4 (cyfnod cymeradwyo terfynol) ddydd Mercher 3 Hydref.
2. Mae’r Bil, sydd yn ymwneud yn llwyr â gwaith mewnol y Cynulliad (trafodion y Cynulliad a swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad) yn cynnwys y ddarpariaeth a ganlyn:
“The official languages of the Assembly are English and Welsh”.
3. Mae’r Bil yn gwneud nifer o ddarpariaethau pellach:
· Ailddatgan y gofyniad sydd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal;
· Gwneud darpariaeth ar gyfer cyfieithu ar y pryd a chofnodi trafodion y Cynulliad yn ddwyieithog;
· Ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad baratoi Cynllun, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cynulliad, i weithredu’r egwyddor o drin y ddwy iaith yn gyfartal mewn perthynas â thrafodion y Cynulliad, gwaith mewnol y Cynulliad a phan fydd y Cynulliad yn ymdrin â’r cyhoedd.
4. Mae Swyddfa Cymru wedi cwestiynu pŵer y Cynulliad i gynnwys y ddarpariaeth a ddyfynnwyd ym mharagraff 2 uchod yn y Bil. Ei sail dros wneud hynny yw y gall y Cynulliad, o dan bennawd 20 yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ddeddfu mewn perthynas â’r iaith Gymraeg ond nid mewn pethynas â’r iaith Saesneg.
5. Nid yw cynghorwyr cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad yn cytuno, ac maent yn credu bod y ddarpariaeth uchod yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
6. Nid oes anghydfod ynghylch a all y Cynulliad ddeddfu mewn cysylltiad â’r iaith Gymraeg ac felly, gallai Deddf Cynulliad ddarparu bod “y Gymraeg yn iaith swyddogol yn y Cynulliad”. Nid yw cynnwys cyfeiriad at yr iaith Saesneg, mewn ffordd sy’n ei gwneud yn glir bod gan y ddwy iaith statws ieithoedd swyddogol, yn newid statws yr iaith Saesneg mewn unrhyw ffordd. Fodd bynnag, gallai fod yn gamarweiniol, o bosibl, i gyfeirio at y ffaith bod y Gymraeg yn iaith swyddogol y ddeddfwrfa heb hefyd gyfeirio at yr iaith swyddogol arall.
7. Felly, mae cyfeirio at yr iaith Saesneg yn achlysurol (“incidental”) i’r ddarpariaeth y mae’r Bil yn ei gwneud mewn cysylltiad â’r iaith Gymraeg ac, felly, mae o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad o dan adran 108(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
8. Cafodd y sail uchod dros gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ei nodi’n llawn ym mharagraff 2.11 y Memorandwm Esboniadol a oedd yn cyd-fynd â’r Bil. Dyna’r sail a ddefnyddiodd yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil i dystio bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac a ddefnyddiodd y Dirprwy Lywydd y Cynulliad i fynegi’r un farn. Mae’r Dirprwy Lywydd bellach wedi adolygu ei benderfyniad ac wedi cadarnhau ei fod yn parhau i fod o’r un farn. Ni wnaeth unrhyw un fynegi dadleuon i’r gwrthwyneb i’r Pwyllgor a oedd yn craffu ar y Bil, ac ni chafodd Comisiwn y Cynulliad unrhyw sylwadau gan unrhyw ffynhonnell heblaw Swyddfa Cymru (e.e. gan Lywodraeth Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol) bod unrhyw un o ddarpariaethau’r Bil y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
9. Mae adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi pŵer i’r Twrnai Cyffredinol (neu’r Cwnsler Cyffredinol) i gyfeirio’r ddarpariaeth benodol dan sylw at y Goruchaf Lys os caiff y Bil ei gymeradwyo. Mae Comisiwn y Cynulliad yn hyderus na ellid cyfiawnhau cam o’r fath.
10. Ar 18 Medi 2012, cysylltodd Swyddfa Cymru â Chomisiwn y Cynulliad i ofyn am ohirio cymeradwyo’r Bil yn derfynol er mwyn galluogi Swyddfa Cymru i geisio cyflwyno Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddiwygio pennawd 13 yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006 (“Cynulliad Cenedlaethol Cymru”) i ychwanegu pwnc penodol (e.e. “Trin y Gymraeg a’r Saesneg mewn perthynas â thrafodion y Cynulliad”) a fyddai’n gosod tu hwnt i bob amheuaeth allu’r Cynulliad i gynnwys y ddarpariaeth dan sylw yn y Bil gan felly gael gwared ar y posibilrwydd o unrhyw gyfeiriad at y Goruchaf Lys.
11. Rhoddodd Comisiwn y Cynulliad ystyriaeth frys a ddifrifol i’r cynnig (gan gynnwys ymgynghori ag arweinwyr pob plaid yn y Cynulliad) ond nododd nifer o anawsterau penodol yn gysylltiedig â hynny:
· mae Comisiwn y Cynulliad yn hyderus ei fod yn deall terfynau cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac nid yw’n credu bod Gorchymyn o’r fath yn angenrheidiol;
· byddai’n golygu gohirio pellach, am gyfnod amhenodol, o ran cymeradwyo’r Bil hwn sydd wedi cael cefnogaeth gan bawb bron o fewn y Cynulliad ac ymhlith y cyhoedd ac y mae angen ei ddarpariaethau er mwyn llenwi bwlch a adawyd gan y ffaith bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 bellach wedi’i disodli gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (nad yw’n gymwys i’r Cynulliad na’r Comisiwn);
· er nad oes rheswm i amau y gall Swyddfa Cymru sicrhau cefnogaeth gyffredinol gan Lywodraeth y DU i gyflwyno gorchymyn drafft, nid oes sicrwydd llwyr o hynny;
· ni ellir gwneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 yn realistig tan ddiwedd y flwyddyn, ac o bosibl tan o leiaf y flwyddyn newydd;
· byddai Gorchymyn drafft yn gofyn am benderfyniadau cadarnhaol gan ddau Dŷ’r Senedd a’r Cynulliad ac ni ellir cymryd yn ganiataol y byddai’r Cynulliad yn cymeradwyo Gorchymyn o’r fath, sef un y byddai ei ddarpariaethau yn gyfyngedig i’r mater penodol dan sylw;
· gallai gwneud Gorchymyn, gyda chymeradwyaeth y Cynulliad arwain, yn dibynnu ar ei union eiriad a’i gwmpas, at oblygiadau ehangach, o ran cymhwysedd deddfwriaethol presennol y Cynulliad, nag y gellir eu hasesu’n briodol ar hyn o bryd.
12. Yn sgîl y ffactorau hyn, mae Comisiwn y Cynulliad wedi dod i’r casgliad mai’r cam gweithredu cywir yw y dylai’r Bil fynd rhagddo yn unol â’r bwriad gwreiddiol.
Keith Bush
Prif Gynghorydd Cyfreithiol,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Hydref 2012